Meithrinfa Ddydd

Mae Meithrinfa Ddydd Coleg Penybont yn darparu amgylchedd cynnes, hapus ac ysgogol i blant chwarae, dysgu, bwyta a chysgu ynddo.

Mae hwn yn rhoi sicrwydd i rieni babanod a phlant ifanc bod eu plant yn cael gofal mewn amgylchedd cyfeillgar, llawen a diogel.

Mae’r Feithrinfa Ddydd ar agor o 7am tan 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i blant rhwng 6 wythnos a 5 mlwydd oed.

Cynllun Chwarae dros y gwyliau

Yn ystod gwyliau’r Haf a’r Pasg a’r gwyliau hanner tymor rydym yn cynnig cynllun chwarae ar gyfer plant 3-13 oed.

Mae ein cynllun chwarae yn boblogaidd iawn, ac yn llenwi’n gyflym fel arfer. Rydym yn agor o 8am tan 5.30pm ac yn darparu te, ynghyd â byrbrydau iach ganol bore a chanol prynhawn. Gofynnwn i blant sy'n mynychu'r cynllun chwarae ddod â phecyn bwyd iachus ar gyfer eu pryd amser cinio.

Ein Tîm

Casglu eich plentyn – rydym yn defnyddio system mewnlofnodi lle dim ond unigolion sydd wedi’u henwi ar y daflen fewnlofnodi all gasglu plant o’r Feithrinfa. Mae'r Feithrinfa yn cadw'r hawl i ryddhau plant i oedolion cyfrifol yn unig.

Os bydd unrhyw berson arall yn dod i’r Feithrinfa i gasglu plentyn heb drefnu hynny ymlaen llaw, ni fyddwn yn rhoi caniatâd iddynt a bydd y plentyn yn aros yn y Feithrinfa nes i’r person enwebedig ddod i’w nôl neu gysylltu â’r Feithrinfa i gadarnhau’r newid.

Os yw staff y Feithrinfa Ddydd yn teimlo nad yw’r oedolyn sy’n casglu’r plentyn yn gyfrifol, neu fod yr unigolyn hwnnw dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol, rydym yn cadw’r hawl i beidio â throsglwyddo eich plentyn nes ein bod yn credu bod oedolyn cyfrifol yn bresennol.

Sylwer, byddwn yn cysylltu â Desg Ddyletswydd y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu mewn achosion o’r fath, ac yn gwneud atgyfeiriad Amddiffyn Plant.

Ble i ddod o hyd i ni

Coleg Penybont, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3DF

Sut i gysylltu â ni

Oriau agor

Dydd Llun i Ddydd Gwener
7am tan 6pm